Beth sy'n gwneud cymuned ymarfer lwyddiannus?

Rydw i wedi cael cwpl o sgyrsiau am Gymunedau Ymarfer yn ddiweddar. Dywedodd un person i mi nad oedd Cymunedau Ymarfer yn effeithiol. Falle nad oedd y dull yn cyd-fynd â diben ei waith nhw, ond falle bod gwall yn y modd y setiwyd y gymuned i fyny.

Pam bod angen cymunedau ymarfer?

Does yna ddim un dull bwled arian ar gyfer dysgu effeithiol, ond mae rhaid i ni ystyried sut y gellir rhoi dysgu o hyfforddiant traddodiadol ar waith. Mae’r bwlch rhwng dysgu ac ymarfer yn llai o fewn cymunedau ymarfer oherwydd bod y cynnwys yn cael ei yrru gan anghenion dysgwyr. Mae cymunedau ymarfer o fewn sefydliadau unigol hefyd mewn sefyllfa dda i fynd i'r afael â'u cyd-destun sefydliadol.

Mae yna ddyfyniadau gwych o ymchwil yr Athro Prof. Donald Forrester et al yn y canllaw gwych yma o'r Rhaglen Datblygu Goruchwylwyr Ymarfer. Maen nhw’n disgrifio sut mae “diwylliant yn bwyta hyfforddiant i frecwast” a pham bod angen i ni fynd y tu hwnt i “ganolbwyntio ar helpu unigolion i wella eu hymarfer, fel ein bod ni’n gallu newid y cyd-destunau sefydliadol y maent yn gweithio ynddynt.”

Mae'r dyfyniadau yma yn canu cloch i mi, a dyma beth rydw i wedi dysgu o gymunedau ymarfer dros y blynyddoedd.

Beth sydd ynddo i mi?

Cyn dechrau, mae'n bwysig cael syniad clir o'r hyn rydych chi eisiau i'r gymuned cyflawni. Mae'n bwysig meddwl y tu hwnt i'r budd i'r sefydliad neu'r adran sy'n cynnal. Mae'r budd i ni yn eithaf clir – rydym yn datblygu amgylchedd dysgu cefnogol a fydd yn cynnig dysgu dwfn i ni. Y cwestiwn mwy yw beth sydd ynddo i aelodau'r gymuned? A sut gallwn ni mynegi'r gwerth yma o'r cychwyn cyntaf? Beth sy'n mynd i wneud i bobl roi eu hamser i fyny er mwyn cyfrannu? Mae hwn yn gwestiwn hynod o bwysig, yn enwedig yn y sector gofal cymdeithasol, ble mae pobl yn gweithio gyda cymaint o achosion.

Maen nhw am ddim?! Beth ydyn ni'n aros amdano?

Mae sefydliadau’n gwario miloedd o bunnoedd ar hyfforddiant bob blwyddyn, tra bod cymunedau ymarfer hunangynhaliol yn rhad ac am ddim… mewn theori. Mae yna reswm pam rwy'n rhoi “mewn theori” mewn dyfyniadau.

Does yna ddim cost ar gyfer hwylusydd, ond mae angen siwd gymaint o amser staff er mwyn gwneud i gymuned ymarfer weithio. Mae'n demtasiwn i feddwl bydd y bobl anhygoel sydd wedi ymuno â'ch cymuned yn mynd ati ar unwaith i ddechrau rhannu arbenigedd a gwybodaeth. Ond y gwir amdani yw fe fydd yn rhywbeth bydd pobl yn gwneud ar ben eu swydd bob dydd. Mae rôl y “Garddwr Cymunedol” (fel y gelwir yng nghanllaw'r Rhaglen Datblygu Goruchwylwyr Ymarfer) yn bwysig iawn – rhaid cael rhywun i ysgogi cyfraniad ac i ddangos bod y gymuned yn fan diogel a chroesawgar ble mae dysgu a chyfranogiad yn cael ei groesawu a'i annog.

Ni fydd cymaint o bobl yn cyfrannu a dy chi'n meddwl

Bydd y gymuned ymarfer yn dechrau'n isel ar restr blaenoriaethau pobl. Bydd llawer o bobl yn teimlo'n anghysurus ynglŷn â chymryd rhan nes y gallwch chi ddangos gwerth y gofod. Hyd yn oed wedyn, fe fydd y cyfraddau cyfranogiad yn eithaf isel.

Mae'n bwysig cael cymuned fawr fel bod gennych chi nifer fawr o gyfranogwyr gweithgar. Mae'r blogbost ardderchog yma ar gymunedau ymarfer gan WhatsThePont yn awgrymu mai dim ond 1% o bobl fydd yn creu cynnwys mewn gwirionedd. Bydd 9% yn golygu, yn addasu neu'n rhoi sylwadau ar y cynnwys hwnnw a bydd 90% yn edrych i weld beth sy'n digwydd. Mae hyn yn teimlo'n gyfarwydd iawn i mi o'm profiad o grwpiau Slack aml-asiantaeth dros y blynyddoedd.

Slack Emojis ar gefndir thema Slack

Mae'r cyfan yn fwy na chyfanswm ei rannau

Gallwch chi wir ddatgloi cymaint o wybodaeth gudd pan dy chi'n dod â lot o bobl ynghyd sydd gyda gwybodaeth gyfoethog o arfer. Mae'r papur hwn ar 'Damcaniaethau a Fframweithiau ar gyfer Addysg Ar-lein: Rhoi Model Integredig ar waith' yn crynhoi hynny mewn modd defnyddiol iawn. Wrth ddadansoddi theori cysylltedd Siemens, mae Picciano yn edrych ar sut mae “dysgu yn dibynnu ar amrywiaeth barn.” Os ydyn ni'n defnyddio lens sy’n seiliedig ar gryfderau i weld y wybodaeth gyfoethog sydd gan gyfranogwyr i gynnig, gallwn weld sut y gall eu syniadau a safbwyntiau ein helpu i fynd i’r afael â’n gwaith mewn amgylcheddau cymhleth. Does yna ddim un ateb i bawb, ond mae gennym siwd gymaint o wybodaeth ac arbenigedd ar y cyd sy'n gallu ein helpu ni i roi cynnig ar ddulliau gwahanol y gellir gweithio.

Dilynwch fi ar toot.wales