Gwneud pethau gwell

Dyfrig Williams

Roedd methiant yn bwnc trafod mawr gwpl o flynyddoedd yn ôl. Roedd hyn yn gyfleus iawn i mi, achos roeddwn i'n gweithio i gorff archwilio ar y pryd.

Break Bart Simpson yn taflu cacen yn y bin sydd gyda “O leiaf wnes ti drio” ‘di sgwennu arno

Y cysylltiad rhwng dysgu a gwneud

Mae'n grêt pan dy chi'n ffeindio modelau sy'n helpu pethau i glicio mewn i'w lle. Pan mae'n dod i fethiant, y model a wnaeth helpu fi mwyaf oedd Sbectrwm o Resymau dros fethiant gan yr Athro Amy C. Edmondson. Wnaeth symlrwydd y graffeg rili helpu mi i ddeall pryd mae rhywun yn haeddu bai am fethu, a phryd y mae’n ganlyniad i faterion system ehangach (clyw: os nad ydy'r person wedi trio gwneud llanast ar bwrpas, rhaid meddwl amdano’r modd priodol o weithio gyda rhywun sy'n gysylltiedig â methiant).

Mae'n werth gwrando ar bennod y bodlediad Squiggly Careers gyda'r Athro Edmondson. Mae yna ychydig o elfennau a gafodd eu hanwybyddu cwpl o flynyddoedd yn ôl. Y pwynt allweddol i mi oedd o gwmpas pwy sydd â'r fraint o allu methu. Mae fe mor amlwg wrth edrych yn ôl, ond wnes i ddim ystyried sut roedd fy agwedd i tuag at fethiant wedi cael ei siapio gan fy mraint i fel dyn gwyn syth. Mae'n llawer mwy diogel i fethu o fewn cyd-destun ble mae ganddo'ch y gofod a'r gefnogaeth emosiynol i wneud hynny.

Yr agwedd arall wnes i ffeindio'n ddiddorol oedd y drafodaeth ynghylch y gwahaniaeth rhwng dysgu a gwybod. Wrth i mi wneud fy ngwaith dros y blynyddoedd diwethaf, mae 'na adegau wedi pan rydw i wedi teimlo'n rhwystredig bod pobl wedi cymryd persbectif sy'n wrthwynebol iawn i mi ynglŷn â dysgu. Y gwir yw ein bod ni gyd yn gweld y byd trwy brism ein profiadau a’n rhagfarnau ein hunain, ac rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i ennill fy mhrofiadau trwy ddulliau dysgu sydd y tu hwnt i'r brif ffrwd. Mae'r ymddygiadau a'r gweithgareddau rydw i wedi cael fy ngwobrwyo ar eu cyfer yn wahanol iawn i'r rhai y mae'r rhan fwyaf o bobl wedi cael cyfle i roi ar waith. Mae meddwl eto amdano hyn wedi fy helpu i i fod yn fwy hael wrth weld pethau o safbwyntiau eraill.

Mae'n cymryd amser a dyfalbarhad i ddad-ddysgu beth rydyn ni wedi dysgu yn y gorffennol, sef bod rhaid i ni wybod popeth am bopeth a bod methiant yn gywilyddus (rhywbeth rydw i wedi trafod mewn blogbost ar reoleiddio sy'n seiliedig ar drawma). Mae’n cymryd lot o waith caled i adeiladu diwylliannau dysgu cynhwysol ble mae’n wirioneddol ddiogel i fethu. Ond os rydyn ni'n mynd i greu gwasanaethau cyhoeddus sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, mae rhaid gwneud hyn.

Dilynwch fi ar toot.wales

Y rôl o ddarganfod mewn dysgu

Rydw i wedi bod yn ystyried sut a pham mae dysgu yn cael ei weld fel gweithgaredd ffurfiol. Dwi 'di bod yn gweithio gyda gwahanol dimau a phobl yng ngwaith ac rydw i wedi dysgu cymaint o bethau newydd mewn cyfnod byr. Mae’n teimlo fel bod hyn yn ychydig o wrthgyferbyniad â'r model dysgu arferol ble rydym yn gwneud ein gwaith o ddydd i ddydd, ac yna'n mynd ar hyfforddiant y mis nesaf i ddysgu am gysyniad y byddwn yn rhoi ar waith ar ryw bwynt yn y dyfodol.

Ar ôl y tro diwethaf i Facebook wneud rhywbeth gwael (dwi ddim yn cofio beth, maen nhw 'di wneud siwd gymaint o bethau gwael), fe wnes i ddod ar draws y blogbost wych yma gan Glyph am y cyd-destun i'r dywediad “Symud yn gyflym a thorri pethau (Move fast and break things)”. Yr hyn a gymerais ohono oedd y pwysigrwydd o ddelio â phroblemau a datblygu ein gwaith fel rhan o'r swydd bob dydd.

Torri GIF o granc yn torri gliniadur

Y cysylltiad rhwng dysgu a gwneud

Mae darganfod gwybodaeth i ddeall y broblem gywir i’w datrys yn teimlo'n wahanol i'n fodd o ddysgu (a gwella) o fewn gwasanaethau cyhoeddus, ble mae pobl yn gwneud hyfforddiant ochr yn ochr i'w gwaith. Mae fe 'da lot mwy yn gyffredin â chysyniad Systemau Dysgu Dynol. Yn y byd meddalwedd, mae hyn yn golygu symud i ffwrdd o ddull rheoli prosiect Rhaeadru (neu “Waterfalll”) i reoli prosiect ystwyth (neu Agile). Yn ein byd gwasanaeth cyhoeddus, mae’n golygu symud i ffwrdd o ddysgu fel rydym yn gweithio o fewn amgylchedd rheoledig (arddull PRINCE 2), i ofod ble rydym yn gweithio gyda'r cymhlethdod a'r dysgu sy’n dod ohono.

Mae’r ffaith bod pobl yn edrych am gyfleoedd dysgu pan maen nhw eu hangen arnynt wedi llywio ymagwedd ein hadnoddau amlgyfrwng. Rydyn ni wedi stopio rhoi gweminarau cyfan ar-lein, ac rydym nawr yn torri nhw'n glipiau byr sy'n mynd yn syth i'r pwynt. Rydym hefyd wedi defnyddio testun y we i amlinellu pwyntiau dysgu allweddol, a hefyd wedi ychwanegu cwestiynau myfyriol i helpu pobl i feddwl am beth maen nhw'n cael allan o'r adnodd. Ni'n gwybod pa mor brin yw adnoddau gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd – does gan staff ddim amser i weithio'n galed i gyrchu darnau o'r adnoddau eu hunain. Os gallwn ni gwneud e'n haws i bobl cyrchu'r dysgu sydd ei angen arnynt pan mae e angen arnynt (fel yr amlinellir yn yr erthygl yma ar ddysgu jyst mewn amser), maen nhw'n lot fwy tebygol o'i rhoi ar waith.

Dilynwch fi ar toot.wales

Mae fe wedi dod i'r pwynt yna o'r flwyddyn ble mae'n amser i adlewyrchu ar y flwyddyn sy’ ’di mynd ac i edrych ’mlaen at y flwyddyn sydd i ddod.

Sut oedd 2023?

Yn fy adolygiad blynyddol llynedd fe wnes i siarad am y newidiadau oedd yn cymryd lle ar-lein. Dyw e dal ddim yn teimlo fel bod pethau wedi setlo. Ar ei orau, roedd Twitter yn siop un stop ar gyfer cymunedau o wybodaeth a newyddion. Mae Mastodon wedi bod yn cŵl, ond dyw pobl byd gwaith ddim di mynd i'r afael â'r platfform. Mae'n drueni gan fod y llwyfan wedi bod yn wych i bopeth arall. Mae lot o bobl a oedd yn fy rhwydwaith gwaith bellach yn defnyddio Bluesky, felly fe fydd yn ddiddorol i weld sut mae hynny'n datblygu.

Unwaith wnes i ymuno â Bluesky (diolch Jaz am rannu'r gwahoddiad – chi'n gwybod bod chi ar blatfform da pan ddyw'r gweinyddwr ddim yn ofni rhannu gwahoddiad i blatfform amgen, felly ymunwch a Toot.Wales!), doeddwn i ddim yn gallu ysgogi fy hun i wneud unrhyw beth am sbel. Roedd yna gwpl o resymau am hynny…

  1. Rwy'n cael llawer o fudd o Mastodon. Dyw e ddim yn berffaith, ond mae'r ffocws ar gymunedau sy'n cael ei berchen gan y defnyddwyr yn dal i deimlo fel tonig ar ôl Twitter.

  2. Mae sefydlu cyfrif cyfryngau cymdeithasol yn cymryd lot o amser a buddsoddiad. Eleni wnes i sylweddoli dwi ddim gyda'r amser i fuddsoddi i mewn i ddatblygu fy rhwydweithiau cymdeithasol fel y gwnes i yn nyddiau cynnar Twitter. Rydw i dal eisiau defnyddio’r llwyfannau i ddysgu o bobl eraill (ac i rannu beth rwy'n dysgu pan mae’n werthfawr), ond does gen i ddim yr amser i rwydweithio fel roeddwn i arfer.

Mae fy nghydweithwyr i bellach yn defnyddio LinkedIn i lenwi'r bwlch, ond dwi dal ddim yn ffan fawr. Mae'n glir bod pobl yn rhannu mwy o'u hunain yno, ond mae'n dal i deimlo fel lle ble mae pobl yn portreadu fersiwn penodol o'u hunain.

LinkedIn GIF ble mae dau berson yn edrych ar sgrin cyfrifiadur o dan y teitl “Yet another think piece about working from home? Yes pls!”

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer 2024?

Byddai'n cysidro fy lles ychydig yn fwy wrth i mi ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn 2024. Eleni fe wnes i sylweddoli fy mod i'n defnyddio podlediadau fel cyfryngau cymdeithasol hefyd, a dydyn nhw ddim yn rhoi cyfle i mi bendroni. Rydw i eisiau rhoi mwy o gyfleoedd i fy hun i ymlacio a myfyrio eleni.

Blogio

Mae Write.As yn blatfform arbennig. Mae'r golygydd testun yn rhoi cyfle gwych i gopïo dolenni ac elfennau ar draws fy mlogbostau dwyieithog.

Fe wnes i adael Medium oherwydd diwylliant y lle. Roedd gennyf fwriadau mawr o ran sut y byddwn yn defnyddio Feedly yn lle swyddogaeth dilyn Medium i ategu fy nefnydd i o gyfryngau cymdeithasol. Wnaeth hynny ddim digwydd mewn gwirionedd – roedd e’n ychwanegiad i sut rwy'n gweithio, felly wnes i byth rhoi e ar waith.

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer 2024?

Yn 2023 fe sgwennais 11 blogbost, sy'n fwy na'r targed gosodais fy hun. Teimlais bwysau ar brydiau i gyflawni hynny, a dwi ddim yn siŵr fod hyn wedi cynorthwyo fy myfyrdod. Dyw targed yn y gofod yma ddim yn ddefnyddiol mwyach, felly byddai'n mynd heb darged flwyddyn nesaf.

Rwy'n ffodus bod Research in Practice wedi ein hannog i neilltuo amser ar gyfer datblygiad personol. Dechreuodd hyn yn dda, ond mae fe wedi mynd ar chwâl braidd. Rydw i wedi rhoi nodyn yn fy nghalendr i fy atgoffa i i checio ffrydiau sy'n cyfateb i feysydd i'w ddatblygu bob dydd Gwener. Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn fy helpu i i wneud gwell defnydd o Feedly ac i rannu a myfyrio’n well ar adnoddau dysgu.

Sut gwnes i yn erbyn fy nodau?

Rwy'n teimlo fel fy mod i wedi bod yn ddewr eleni, ac wedi cael sgyrsiau defnyddiol ac adeiladol ar hyd y ffordd. Mae llai o straen gartref wedi helpu gyda hynny, gan ein bod ni wedi cyrraedd man da ar ôl 18 mis o ddiffyg cwsg. Fodd bynnag, mae gennym heriau ar y gweill eleni. Rydw i wedi siarad am rai o'r rhain mewn cyfarfodydd oruchwylio, ac rwy'n ddiolchgar iawn i gael cymorth yn y gwaith yn ogystal ag yn fy mywyd cartref.

Rwy'n dal i fyny i fy nghlustiau mewn sgwennu arweiniad am dasgau a phrosesau gwahanol, ond dwi di wneud lot. Hoffwn lywio'r dyluniad rhai o'n hadnoddau ychydig yn fwy'r flwyddyn yma, gan fynd ychydig yn ddyfnach i'r ochr UX o bethau. Dw i wedi bod yn anelu at ddatblygu fy ngwybodaeth am UX ychydig, ac mae ychwanegu hashnodau UX i'm llif cartref ar Mastodon wedi bod yn ddefnyddiol (arweiniodd hyn yn uniongyrchol ato'r blogbost yma ar ddysgu a chryfderau).

Unrhyw beth arall?

Un o fy uchafbwyntiau blwyddyn ddiwethaf oedd taith seiclo o amgylch Canolbarth Cymru. Mae gen i gwpl o syniadau mewn golwg ar gyfer eleni – mae'r siwrneiau Traws-Gambriaidd a Traws Eryri yn wir apelio ataf. Bydd hyn yn rhoi pwynt ffocws i mi ar gyfer cynnal fy iechyd a lles dros y flwyddyn. Yn y cyfamser, dringo bryniau a'r tyrbo bydd yn cadw fi'n ffit nes mae yna fwy o olau dydd.

Dyma i 2024!

Dilynwch fi ar toot.wales

Pan mae pobl yn gofyn i mi i esbonio gwaith Research in Practice, rwy’n tueddu i ddweud bod ni'n wasanaeth aelodaeth sy’n helpu sefydliadau gofal cymdeithasol i wella. Rwy’n aml yn meddwl amdano'r sefyllfa freintiedig rydyn ni ynddo a’r hyn y mae’n ei olygu i newid sefydliadol – rydyn ni mewn sefyllfa ble rydyn ni'n gallu bod yn gyfeillion beirniadol, ond mae hyn hefyd yn golygu bod ni ddim yn gallu fod yn gwbl ymwybodol o sut mae'r cyd-destun sefydliadol yn edrych ac yn teimlo.

Mae'n ymwneud â chyd-destun

Mae yna rai peryglon sydd angen i ddarparwyr allanol osgoi. Fel sefydliad nid-er-elw, rydym yn osgoi'r broblem a wynebir gan ddarparwyr preifat mawr – rydym yn osgoi perthynas anghytbwys ble mae angen i'n partneriaid wario mwy o arian er mwyn cyrchu ein hamser a'n harbenigedd.

Dydyn ni ddim mewn gofod ble mae angen i ni fagu synnwyr ein bod ni'n gwybod mwy na'n partneriaid. Yn wir, rydym yn edrych ar sut y gallwn wneud mwy allan o'n cryfderau fel rhwydwaith. Mae ein digwyddiadau blaenllaw a'n tîm ymgysylltu â phartneriaid yn ceisio cysylltu pobl ar draws seilos sefydliadol fel bod pobl yn gallu rhannu eu gwybodaeth a phrofiadau. Mae hyn yn creu gofod ble gall pobl gyd-greu a datblygu gwybodaeth, a ble rydym yn cydnabod arbenigedd ein partneriaid.

Darlun gan Fiona Katauskas ar gyfer y Guardian ble mae ffermwr yn gwerthu gwasanaeth i ieir am ddiogelu cwt ieir ac i lwynogod ar gyfer torri i mewn i gytiau ieir

Mae'r cyfyngiad arall yn ymwneud â'n hymagwedd at ddysgu. Gall darparwyr osod eu hunain fel yr unig rai sydd gyda'r arbenigedd i fynd i'r afael â'r angen o fewn y sefydliad. Mae hyn yn creu gwagle ble mae rhaid canfod arbenigedd trwy brynu gwybodaeth mewn modd megis hyfforddiant. Mae hyn yn gwrthdaro â’r dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau rydym yn siarad amdano o fewn gofal cymdeithasol. Mae ein hymagwedd dysgu yn rhy aml yn adlewyrchu gwasanaethau sy'n seiliedig ar ddiffygion – ble mae'r hyfforddwr neu'r hwylusydd yn rhedeg y sesiwn gyda'r persbectif bod gan gyfranogwyr ddim byd i'w gynnig. Ond pan ystyriwn mai cyfranogwyr sydd â'r wybodaeth ynglŷn â'r cyd-destun y maen nhw'n gweithio ynddynt, mae yna lawer llai o wahaniaeth rhwng y lefelau o wybodaeth sydd gan yr hyfforddwr/hwylusydd a'r mynychwyr.

Delwedd o blogbost gan Andrew Duckworth ble mae iâr yn rhannu sleidiau sy'n dweud “Mae popeth rydych chi'n gwneud yn dwp, ac mae beth rwy’n wneud yn glyfar. Cyflogwch mwy ohonon ni!”

Pan rydym yn modelu perthnasoedd dysgu effeithiol, rydym hefyd yn modelu perthnasoedd gwaith da i'n sefydliadau partner. Mae dangos ein bod ni’n parchu eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn golygu eu bod nhw'n gallu rhoi deinameg tebyg ar waith gyda'r bobl maen nhw'n gweithio gyda. Gan adlewyrchu yn ôl at y flogbost uchod ble mae'r ddelwedd uchod wedi'i thynnu gan Andrew Duckworth, rhaid dangos, nid jyst dweud beth yw gwaith da.

Dilynwch fi ar toot.wales

Mae yna lot o drafod wedi bod ynghylch y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y gweithle a phryd/os byddwn ni'n cael ein disodli gan robotiaid.

robot Byddin o robotiaid

Rydyn ni wedi bod yn edrych nôl dros ein fideos yn ddiweddar i weld ba rai sydd heb gael ei drawsgrifio, ac rydyn ni hefyd wedi bod yn adolygu ein prosesau fel ein bod ni'n gwneud yn well yn y dyfodol. Mae hwn wedi rhoi siawns i ni edrych ar y bwlch rhwng trawsgrifiadau awtomatig ac ymdrechion cwmnïau trawsgrifio. Mae safonau trawsgrifio awtomatig wedi gwella'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae dal angen llygad dynol i gael cipolwg dros yr allbynnau.

Trefedigaethedd dechnegol

Un o'r problemau gyda'r trawsgrifiad awtomatig yw'r ffordd mae'n delio gydag enwau di-Saesneg. Ar hyn o bryd mae AI yn cyfleu persbectif anglosentrig o'r byd oherwydd natur y data sy’n wraidd iddo. Dyw hwn ddim yn achosi gormod o broblemau i ni gan ein bod ni'n cynhyrchu fideos Saesneg. Wedi dweud hynny, er bod e'n ddoniol i weld fy enw i'n cael ei newid i Derek i ddechrau, mae'r llawenydd yn pylu. Rwy'n cael fy atgoffa o'r nam yma'n aml pan rwy'n defnyddio systemau mapio pan ddwi nôl yng Nghymru – mae systemau technoleg yn cam-ddweud enwau llefydd Cymraeg fel mater o drefn. Mae prosiectau fel Mapio CymruMapio Cymru a Common Voice mor bwysig er mwyn mynd i’r afael â hyn.

Mae problemau hefyd ynghylch sut mae Algorithmau AI yn gweld ac yn cynrychioli'r byd fel stereoteipiau. Mae'n bosib y gall AI gwella ansawdd allbynnau dynol, ond mae rhaid checio'r allbynnau yma yn erbyn ffynonellau eraill, neu fe fydd rhagfarnau'r algorithmau a data gwreiddiol yn siapio'r allbynnau.

Cymryd persbectif gwahanol

Mae llawer o'r achosion arfaethedig ar gyfer AI wedi bod yn ffocysu ar arbed arian trwy arbed llafur, ond mae'r llafur hwnnw'n cael ei wneud rhywle arall. Mae'r erthygl hon ar sut mae pobl yn Nairobi yn prosesu data i hyfforddi AI yn dorcalonnus – mae ein defnydd camfanteisiol o AI yn y Gorllewin yn arwain at ecsbloetio pobl yn y De Byd-eang.

Os cymerwn bersbectif echdynnol ble dy ni ddim yn cyfrannu dim byd ond yn derbyn gwerth, rydyn ni mewn trafferth. Ond os edrychwn ni ar weithio mewn partneriaeth â thechnoleg, mae yna fyd newydd o bosibiliadau. Mae'r erthygl yma gan Janet Vertesi yn ymchwilio i sut all dull iachach edrych a pham ei fod yn fwy tebygol o lwyddo. Ar hyn o bryd mae Spotify a gwasanaethau ffrydio cerddoriaeth eraill yn canibaleiddio'r diwydiant cerddoriaeth. Ond os ydym yn edrych ar algorithmau fel ffynhonnell o greadigrwydd yn lle ffordd o dorri costau, yna mae'r system yn teimlo'n llawer iachach:

“Gallai artistiaid ysgrifennu neu guradu eu halgorithmau eu hunain i danio creadigrwydd a chadw credyd am eu gwaith. Wrth gwrs, dyw gwrthod amnewid ddim yn dileu'r holl bryderon moesegol sydd gydag AI. Ond mae llawer o broblemau sy'n gysylltiedig â bywoliaeth ddynol, asiantaeth a rhagfarn yn mynd o'r neilltu pan rydym yn ailosod y nod.”

Fe wnaeth hyn fy atgoffa i o waith Vanguard, ble maen nhw'n sôn am y pwysigrwydd o newid meddylfryd cyn gweithio ar systemau a pherfformiad. Os yw ein meddylfryd yn mynnu mai dull o arbed arian yw AI, yna ein pwrpas deffacto yw'r ddarpariaeth o wasanaethau rhad, nid rhai da. Nid technoleg yw'r ateb i'r cwestiynau sy'n ein hwynebu, ond modd o hwyluso ni i wneud pethau gwell.

Dilynwch fi ar toot.wales

Fe wnes i gael fy adolygiad blynyddol yn ddiweddar, ac fe wnaeth y broses rhoi cyfle i mi fyfyrio dros y flwyddyn ddiwethaf. Edrychais dros fy mlogbostau adlewyrchol ac fe wnes i dal i fyny gyda fy rheolwr llinell i edrych dros fy ngwaith eleni a'r datblygiadau yn fy rôl.

Adborth a myfyrio

Yn gyffredinol, mae pethau wedi mynd yn dda, ond mae yna lot o botensial i ddatblygu safle dysgu yng nghynnyrch craidd y busnes. Rydym wedi profi cynhyrchion newydd o'r enw Llwybrau Dysgu, ble mae pobl yn cael eu tywys ar daith ddysgu trwy adnoddau amrywiol. Roedd rhaid gwneud lot o waith tu ôl i'r sîns ar gyfer rhain. Ond nawr rydym wedi symud o Umbraco 7 i Umbraco 10, mae gennym y cyfle i ddatblygu'r adnoddau hyn ymhellach. Bydd cynhyrchu'r rhain yn gofyn am ffordd wahanol o weithio, ac fe fydd yn ddiddorol i weld ba newidiadau gweithdrefnol a diwylliannol sydd angen.

Fel sefydliad rydym ar bwynt diddorol o'n datblygiad – rydym wedi tyfu'n rhy fawr i rai o'n prosesau syml, gan nad ydyn nhw'n helpu ni i graffu gwaith ein gilydd. Rydw i wedi bod yn brwydro yn erbyn rhai pethau sy'n cynyddu'r lefelau o fiwrocratiaeth. Rwy'n meddwl fy mod i wedi cael trafferth deall pryd i frwydro, a phryd i adael i bethau i fynd. Mae yna adegau nawr pryd mae’n teimlo fel bod pawb yn disgwyl i mi anghytuno, a dyw hynny ddim yn teimlo fel gofod defnyddiol.

Beth ydw i eisiau bod yn dweud yn fy adolygiad nesaf?

Rwy’n gobeithio dweud fy mod i'n haelod cefnogol o’n grŵp rheolwyr canol, a bod ein hadnoddau wedi’u dylunio’n well er mwyn ysgogi newid.

Disgwyliadau

Rydw i nawr yn rheoli ein Swyddog UX. Rydym yn prototeipio ffordd o weithio sydd yn seiliedig ar sut rydym yn gweithio'n hybrid. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma i weld sut y gallwn ddod â UX i mewn i ddatblygiad ein gwaith ehangach.

Mae gen i rywfaint o wybodaeth am UX, ond dwi ddim yn arbenigwr o bell ffordd. Gall y cyfyngiadau yn fy ngwybodaeth wneud e'n anodd i mi roi fframwaith clir ar gyfer y gwaith, ond rwy’n gallu darparu syniad clir o natur ein gwaith a’n hadnoddau, yn ogystal â sut mae ein partneriaid gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio.

Mae gen i ddiddordeb mawr hefyd mewn profi sut y gallwn newid y ffordd y mae ein hadnoddau amlgyfrwng yn teimlo. Rydym yn edrych ar sut y gallwn ddylunio rhai o'n hadnoddau'n well er mwyn ei wneud yn haws i bobl i gysylltu'n emosiynol â nhw a rhoi'r dysgu ar waith, jyst fel yr Eliffant a'r Marchog.

Beth ydw i eisiau bod yn dweud yn fy adolygiad nesaf?

Rwy’n gobeithio dweud bod natur berthynol ein hadnoddau yn gwneud e'n haws i bobl eu rhoi ar waith. Rydw i hefyd eisiau cynyddu fy ngwybodaeth am UX fel y gallaf gefnogi a herio fy nghydweithiwr yn well.

Twf a Datblygiad

Rydw i wedi dysgu siwd gymaint o fod ar Twitter dros y blynyddoedd, ond dyw X ddim yn ofod defnyddiol rhagor. Mae disgrifiad Helen Lewis ohono fel “bobio am afalau mewn powlen sydd yn llawn o wyddonwyr hil amatur” yn teimlo'n iawn i mi. Mae symud i ffwrdd o X yn golygu bod angen i mi ddatblygu rhwydweithiau ar-lein newydd i adeiladu fy ngwybodaeth.

Beth ydw i eisiau bod yn dweud yn fy adolygiad nesaf?

Rwy’n gobeithio dweud ein bod ni wedi datblygu a myfyrio ar ffyrdd newydd a gwahanol o weithio. Rwy'n gobeithio datblygu fy nysgu o ffynonellau a rhwydweithiau newydd dros y flwyddyn.

Lles

Dyw eleni ddim wedi bod yn hawdd gan fy mod i wedi gorwneud pethau ychydig.

Rwy'n dechrau deall rhythm fy wythnos waith newydd o bedwar ddiwrnod. Yn y bôn, mae dydd Mawrth yn hynod o brysur, ac mae'r llwyth yn ysgafnhau wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen, nes bod gen i'r amser i wneud gwaith go iawn ar ddydd Gwener. Dysgais cymaint o weithdy cynhyrchiant Happy, ac rydw i eisiau rhoi rhai o’r dulliau yna ar waith yn fwy cyson.

Mae seiclo wedi rhoi cyfle i mi gymryd brêc bach ac i edrych ar ôl fy hun yn feddyliol ac yn gorfforol. Pan ddechreuais seiclo degawd yn ôl, doedd gen i ddim syniad o’r gwaith cynnal a chadw byddai angen. Rydw i wedi dysgu cymaint, ond mae adeiladu beic graean wedi cymryd lot o ymdrech, a jyst ar ôl i mi ddechrau fe dorrodd y ffyrc ar fy fficsi hefyd. Mae gweithio ar ddau feic wedi bod yn ymdrech go iawn mewn cyfnod ble byddai fi wir wedi gwerthfawrogi bach o amser sbâr. Wedi dweud hynny, rydw i wedi ymdrechu i fynd mas ar y beic yn gynnar yn y bore, ac mae hynny wedi bod yn anhygoel. Ac un o'r pethau gorau dwi di wneud dros y flwyddyn ddiwethaf yw i i archwilio cefn gwlad canolbarth Cymru ar y beic graean.

Llun o dop bryn sy'n edrych allan dros gwm gwrth a gafodd ei gymryd tra'n archwilio Canolbarth Cymru ar fy meic graean

Mae fy mlogio i wedi cymryd tipyn o ergyd wrth i fy amser sbâr lleihau. Dwi heb fod mor gynhyrchiol ag yr oeddwn i eisiau fod, ond dwi hefyd eisiau fod yn hael i fy hun. Dwi ddim yn teimlo fel dwi wedi gwastraffu unrhyw amser, ac rwy'n gobeithio blogio mwy dros ran olaf y flwyddyn. Mae rhannu fy nysgu ac amlygu'r pethau cŵl mae pobl yn wneud wedi bod yn allweddol wrth adeiladu rhwydweithiau ar-lein yn y gorffennol. Mae'r adlewyrchu hefyd yn ddefnyddiol iawn o ran yr adolygiad blynyddol yma hefyd.

Beth ydw i eisiau bod yn dweud yn fy adolygiad nesaf?

Dwi ddim yn dechrau fy niwrnodau gydag e-byst o ddydd Mercher i ddydd Gwener, a dwi eisiau nodi'r tasgau allweddol i mi ganolbwyntio arno'r diwrnod cynt.

Wrth i nosweithiau'r gaeaf agosáu, mae'n bwysig fy mod i'n parhau gyda fy rheol “dim cyfarfodydd dros amser cinio” fel fy mod i'n gallu gwneud ymarfer corff pan nad yw'n bosib fel arall.

Fe fydd yn ddiddorol i edrych nôl dros y blogbost yma i weld beth dwi wedi'i roi ar waith a beth dwi heb. Rhywbeth i fyfyrio arno ar ddiwedd y flwyddyn, ac yn adolygiad blynyddol y flwyddyn nesaf!

Dilynwch fi ar toot.wales

Roedd Twitter arfer bod yr unig le am meicro-blogio, ond mae defnyddwyr bellach wedi'u gwasgaru rhwng llwyfannau amrywiol.

Image description

Mae fe wedi bod dros hanner blwyddyn ers i mi sgwennu blogbost am Mastodon fel dewis amgen i Twitter. Yn sgil hwn, fe wnes i a grŵp o'm cydweithwyr cael sgwrs hynod o ddiddorol ynghylch y platfform, ein profiadau a beth roeddem wedi dysgu. O bawb yn y cyfarfod, fi oedd y person a oedd wedi'i gyffroi'n fwyaf, a hefyd fi oedd y person a oedd wedi drysu'r lleiaf.

Mae'r blogbost yma gan Erin Kissane yn ategu'r profiad yma. Mae'n amlinellu bod pobl wedi gadael Mastodon achos ei fod yn rhy ddryslyd, yn ormod o waith ac yn rhy frawychus.

Mae'n drueni mawr nad yw Mastodon wedi gallu manteisio ar ddirywiad Twitter. Mae Maria Antoniak yn crynhoi'r sefyllfa bresennol yn wych:

“Efallai ei bod hi'n amser da i gymuned Mastodon fyfyrio ar sut mae'r defnyddiwr cyffredin wedi cael eu ffaelu – y math o ddefnyddiwr sydd fwyaf cyfforddus gydag apiau hawdd fel Facebook ac Instagram. Mae gwir angen dewisiadau amgen o gyfryngau cymdeithasol, a'r ffordd i ennill y rhyfel yma yw trwy greu dewisiadau realistig eraill sy'n hyfryd i'w ddefnyddio.”

Mae gwrando ar gymunedau lleiafrifol ar Mastodon wedi bod yn brofiad dysgu hefyd – mae rhai nodweddion ac aelodau o'r gymuned wedi gwneud y llwyfan yn ofod digroeso. Mae'r ffaith bod e ddim yn bosib dyfynnu postiad wedi lleihau'r teimlad o gywilyddio sy'n nodwedd o Twitter, ond mae hyn hefyd yn meddwl nad yw Mastodon wedi cael ei ystyried fel dewis amgen i Twitter Du (neu Black Twitter).

I fi, mae'n teimlo bod gan Mastodon rôl wahanol yn fy mywyd i Twitter. Er bod fy rhyngweithiadau arno wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, mae'r cyfyngiadau gyda'r chwilio (sy'n newid diolch byth) wedi golygu ei bod yn anodd dod o hyd i wybodaeth a chymunedau penodol. Mae'r blogbost yma gan Terence Eden ar gymhlethdodau chwilio yn werth ei ddarllen.

Pam aros ar Mastodon?

Mae'n rhwydd meddwl am Mastodon fel un peth ond gan fod e'n rhan o'r Fediverse mae yna lawer o bosibiliadau ynghylch sut all y platfform datblygu, neu sut all rhai eraill ddatblygu ohono.

Er nad yw Mastodon yn ofod dysgu perffaith ar hyn o bryd, mae ganddo lawer mwy o botensial i ddatblygu i fod yn un ymarferol (a dymunol) na'i ddewisiadau amgen. Mae yna lawer o bobl o dechnoleg ar y platfform, sy'n rhoi naws tebyg i ddyddiau cynnar Twitter iddi.

Felly beth am yr opsiynau eraill?

Ar ôl rhoi'r gorau i ecosystem Meta, does gen i ddim chwant i gael fy sugno'n ôl iddo trwy Threads.

Does gen i ddim llawer o ffydd mewn Blue Sky chwaith, ond rwy'n agored i newid fy meddwl. Roedd yna awyrgylch cas i Twitter ymhell cyn i Elon Musk gymryd yr awenau. Roedd e'n llawn casineb a throlio, ac roedd e'n lle digon annymunol i fod. Rwy'n aros i weld sut mae'r platfform yn gweithredu o dan Jack Dorsey, ac os yw'n debyg i deimlo'n wahanol.

Er bod gan Mastodon lawer o le i ddatblygu a bod yn well, mae'r ffaith fod e'n cael ei ddatblygu (y gallu i chwilio er enghraifft) yn rhoi gobaith i mi, yn enwedig wrth ei gymharu â Twitter. Mae'r opsiynau gwahanol o ran tynnu geiriau a chynnwys o'ch llinell amser, yn ogystal â rhybuddion cynnwys cymunedol i gyd yn gwneud iddo deimlo'n llawer llai gwenwynig na Twitter.

Mae trafodaethau agored ynghylch modelau cyfranogol ar gyfer y platfform hefyd. Er nad yw'n berffaith ar hyn o bryd, mae'n newid ac yn datblygu'n gyflym. Yn wir, mae'r platfform wedi dechrau mynd i'r afael â llawer o'r materion sydd ganddo (er enghraifft chwilio) ers i mi ddechrau ysgrifennu'r blogbost yma.

Mae Mastodon wedi dangos i mi nad oes rhaid i rwydweithiau cymdeithasol fod yn wenwynig, ac mae'n rhoi gobaith i mi ddod o hyd i fannau dysgu effeithiol yn y dyfodol.

Dilynwch fi ar toot.wales

Rydw i wedi bod yn edrych ar ymchwil ynghylch cyfnodau canolbwyntio er mwyn bwydo'r canfyddiadau i fewn i'n cynnig dysgu ar-lein.

Falle dyw e ddim yn syndod bod pobl yn canolbwyntio'n wahanol mewn gofod ar-lein o gymharu â digwyddiadau wyneb yn wyneb. Mae'r cyd-destun wahanol yn golygu fod yna cymaint mwy o bethau sy'n gallu amharu ar ein sylw.

Cyfnod canolbwyntio Rhywun yn edrych ar pili-pala yn lle gwneud gwaith ar gyfrifiadur

Beth mae'r dystiolaeth yn dweud

Er bod lot o ni'n credu bod ein cyfnodau canolbwyntio yn crebachu oherwydd ein defnydd o dechnoleg, mae’r erthygl yma ar y BBC yn dangos bod rhaid i ni edrych yn fanylach ar beth mae'r tystiolaeth yn dweud mewn gwirionedd. Mae yna llawer o ffeithiau a ffigurau amheus sy'n golygu bod y gwir yn cael ei cholli ynghylch gwybodaeth annilys.

Felly os nad yw ein cyfnodau canolbwyntio yn crebachu, ydy hyn yn meddwl ein bod ni'n gallu mynd yn ôl i ddibynnu ar PowerPoint eto?

“Bydd y faint o sylw rydyn ni'n rhoi i dasg yn amrywio yn dibynnu ar ofynion y dasg”

Mae'r dyfyniad yma wedi rhoi lot i mi feddwl amdano. Os does yna ddim gofyniad neu ymarfer sy'n ysgogi pobl i wrando, maent yn debygol i ddechrau meddwl am bethau arall. Mae siarad â phobl am gyfnod estynedig o amser (yn enwedig mewn gofod ar-lein ble mae yna lot o bethau'n gystadlu am sylw) yn golygu y bydd pobl yn debygol o diwnio mas. Does yna ddim cyfnod perffaith o amser sy'n golygu ein bod ni'n gallu cadw sylw pobl – mae hyn yn dibynnu ar cyd-destun a chynnwys. Ond os ydym yn cynnwys pobl yn yr ymarfer ac yn dangos bod ni'n gwerthfawrogi eu mewnbwn, yna mae'n nhw'n fwy tebygol o ganolbwyntio a bwydo i mewn i ddigwyddiadau ac ymarferion rydyn ni'n cynnal.

Dilynwch fi ar toot.wales

Un o’r pethau cŵl am weithio i sefydliad fel Research in Practice yw ein bod ni'n gallu rhoi beth ni'n dysgu wrth ddatblygu ein hadnoddau ar waith yn ein gwaith ein hunain.

Pan wnes i gymryd arno ddyletswyddau rheolwr llinell eto, gofynnais fy nghydweithwyr yn y tîm Datblygu Busnes am sut allai ddechrau'r perthnasoedd ym modd bositif. Cefais fy nghyfeirio at y cytundebau goruchwylio a luniwyd ar gyfer y Rhaglen Datblygu Goruchwylwyr Ymarfer, a helpodd rhain i mi i egluro fy nisgwyliadau i’r cydweithwyr rydw i bellach yn rheoli.

Contract

Golygfa o rhywun yn arwyddo cytundeb neu contract

Mynd drwy'r ôl-gatalog

Mae dod yn rheolwr llinell hefyd wedi gwneud i mi edrych nôl dros rhai o'm hen blogbostau. Rydw i wedi nodi fy mod i eisiau cael perthnasoedd oedolyn i oedolyn, ac mae hynny'n rhywbeth rwy'n meddwl y gall cytundebau goruchwylio helpu mi i sefydlu. Mae'r rhesymeg dros gytundebau yn fy atgoffa o blogbost a sgwennais ar reolau sylfaenol – maen nhw'n ddatganiad ar y cyd o sut y gall perthnasoedd da edrych.

Fe wnaeth darllen yn ôl dros y blogbost fy atgoffa i y dylwn i checio beth mae ein gwerthoedd sefydliadol yn golygu i ni a pha werthoedd eraill sy'n bwysig. Oes gennym gyd-ddealltwriaeth o'r gwerthoedd yma? Er enghraifft, beth mae'n golygu i fod yn garedig a sut byddai hyn yn edrych yn ymarferol?

Mae’r eglurder o’r cytundebau yn fy atgoffa o’r dull ‘manual of me’, ond bod y cytundeb yn mynd ymhellach ac yn rhannu ymrwymiad ar y cyd ar gyfer sut y gall dau berson gweithio gyda’i gilydd.

Mynd y tu hwnt i orchymyn a rheolaeth

Yr hyn rydw i'n wir hoffi am y cytundeb goruchwylio yw bod berthynas iach yn gydgyfrifoldeb. Mae'n wrthgyferbyniad i'r sefyllfa o fewn sefydliad gorchymyn a rheoli, ble mae'r cyfrifoldeb ar gyfer llunio'r berthynas yn eistedd gyda'r rheolwr. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut all y cytundebau ein helpu i symud y tu hwnt i’r pwynt yma fel bod gennym sail dda ar gyfer perthnasoedd gwaith effeithiol a chefnogol.

Dilynwch fi ar toot.wales

Rydw i wedi cael cwpl o sgyrsiau am Gymunedau Ymarfer yn ddiweddar. Dywedodd un person i mi nad oedd Cymunedau Ymarfer yn effeithiol. Falle nad oedd y dull yn cyd-fynd â diben ei waith nhw, ond falle bod gwall yn y modd y setiwyd y gymuned i fyny.

Pam bod angen cymunedau ymarfer?

Does yna ddim un dull bwled arian ar gyfer dysgu effeithiol, ond mae rhaid i ni ystyried sut y gellir rhoi dysgu o hyfforddiant traddodiadol ar waith. Mae’r bwlch rhwng dysgu ac ymarfer yn llai o fewn cymunedau ymarfer oherwydd bod y cynnwys yn cael ei yrru gan anghenion dysgwyr. Mae cymunedau ymarfer o fewn sefydliadau unigol hefyd mewn sefyllfa dda i fynd i'r afael â'u cyd-destun sefydliadol.

Mae yna ddyfyniadau gwych o ymchwil yr Athro Prof. Donald Forrester et al yn y canllaw gwych yma o'r Rhaglen Datblygu Goruchwylwyr Ymarfer. Maen nhw’n disgrifio sut mae “diwylliant yn bwyta hyfforddiant i frecwast” a pham bod angen i ni fynd y tu hwnt i “ganolbwyntio ar helpu unigolion i wella eu hymarfer, fel ein bod ni’n gallu newid y cyd-destunau sefydliadol y maent yn gweithio ynddynt.”

Mae'r dyfyniadau yma yn canu cloch i mi, a dyma beth rydw i wedi dysgu o gymunedau ymarfer dros y blynyddoedd.

Beth sydd ynddo i mi?

Cyn dechrau, mae'n bwysig cael syniad clir o'r hyn rydych chi eisiau i'r gymuned cyflawni. Mae'n bwysig meddwl y tu hwnt i'r budd i'r sefydliad neu'r adran sy'n cynnal. Mae'r budd i ni yn eithaf clir – rydym yn datblygu amgylchedd dysgu cefnogol a fydd yn cynnig dysgu dwfn i ni. Y cwestiwn mwy yw beth sydd ynddo i aelodau'r gymuned? A sut gallwn ni mynegi'r gwerth yma o'r cychwyn cyntaf? Beth sy'n mynd i wneud i bobl roi eu hamser i fyny er mwyn cyfrannu? Mae hwn yn gwestiwn hynod o bwysig, yn enwedig yn y sector gofal cymdeithasol, ble mae pobl yn gweithio gyda cymaint o achosion.

Maen nhw am ddim?! Beth ydyn ni'n aros amdano?

Mae sefydliadau’n gwario miloedd o bunnoedd ar hyfforddiant bob blwyddyn, tra bod cymunedau ymarfer hunangynhaliol yn rhad ac am ddim… mewn theori. Mae yna reswm pam rwy'n rhoi “mewn theori” mewn dyfyniadau.

Does yna ddim cost ar gyfer hwylusydd, ond mae angen siwd gymaint o amser staff er mwyn gwneud i gymuned ymarfer weithio. Mae'n demtasiwn i feddwl bydd y bobl anhygoel sydd wedi ymuno â'ch cymuned yn mynd ati ar unwaith i ddechrau rhannu arbenigedd a gwybodaeth. Ond y gwir amdani yw fe fydd yn rhywbeth bydd pobl yn gwneud ar ben eu swydd bob dydd. Mae rôl y “Garddwr Cymunedol” (fel y gelwir yng nghanllaw'r Rhaglen Datblygu Goruchwylwyr Ymarfer) yn bwysig iawn – rhaid cael rhywun i ysgogi cyfraniad ac i ddangos bod y gymuned yn fan diogel a chroesawgar ble mae dysgu a chyfranogiad yn cael ei groesawu a'i annog.

Ni fydd cymaint o bobl yn cyfrannu a dy chi'n meddwl

Bydd y gymuned ymarfer yn dechrau'n isel ar restr blaenoriaethau pobl. Bydd llawer o bobl yn teimlo'n anghysurus ynglŷn â chymryd rhan nes y gallwch chi ddangos gwerth y gofod. Hyd yn oed wedyn, fe fydd y cyfraddau cyfranogiad yn eithaf isel.

Mae'n bwysig cael cymuned fawr fel bod gennych chi nifer fawr o gyfranogwyr gweithgar. Mae'r blogbost ardderchog yma ar gymunedau ymarfer gan WhatsThePont yn awgrymu mai dim ond 1% o bobl fydd yn creu cynnwys mewn gwirionedd. Bydd 9% yn golygu, yn addasu neu'n rhoi sylwadau ar y cynnwys hwnnw a bydd 90% yn edrych i weld beth sy'n digwydd. Mae hyn yn teimlo'n gyfarwydd iawn i mi o'm profiad o grwpiau Slack aml-asiantaeth dros y blynyddoedd.

Slack Emojis ar gefndir thema Slack

Mae'r cyfan yn fwy na chyfanswm ei rannau

Gallwch chi wir ddatgloi cymaint o wybodaeth gudd pan dy chi'n dod â lot o bobl ynghyd sydd gyda gwybodaeth gyfoethog o arfer. Mae'r papur hwn ar 'Damcaniaethau a Fframweithiau ar gyfer Addysg Ar-lein: Rhoi Model Integredig ar waith' yn crynhoi hynny mewn modd defnyddiol iawn. Wrth ddadansoddi theori cysylltedd Siemens, mae Picciano yn edrych ar sut mae “dysgu yn dibynnu ar amrywiaeth barn.” Os ydyn ni'n defnyddio lens sy’n seiliedig ar gryfderau i weld y wybodaeth gyfoethog sydd gan gyfranogwyr i gynnig, gallwn weld sut y gall eu syniadau a safbwyntiau ein helpu i fynd i’r afael â’n gwaith mewn amgylcheddau cymhleth. Does yna ddim un ateb i bawb, ond mae gennym siwd gymaint o wybodaeth ac arbenigedd ar y cyd sy'n gallu ein helpu ni i roi cynnig ar ddulliau gwahanol y gellir gweithio.

Dilynwch fi ar toot.wales

Enter your email to subscribe to updates.