Gwneud pethau gwell

Dyfrig Williams

Rydw i ar fin fod yn rheolwr llinell eto ar ôl bach o frêc. Roeddwn i'n meddwl byddai'n ddefnyddiol i atgoffa fy hun o beth wnes i'n dda a beth fyddai'n werth i mi wneud yn wahanol y tro 'ma.

Dechreuwch fel dy chi'n golygu mynd ymlaen

Fy rôl flaenorol oedd y tro cyntaf i mi fod yn rheolwr llinell a dysgais siwd gymaint o'r profiad. Es i i mewn i'r rôl gyda chynllun ynghylch rhoi ymagwedd arweinyddiaeth gwas ar waith. Ar y cyfan fe weithiodd yn dda, ond fe wnes i gyfyngu fy hun ychydig. Mae mynd i mewn i sefyllfa gyda methodoleg mewn golwg o'r cychwyn cyntaf yn ffitio gyda'r dywediad “i morthwl, mae popeth yn edrych fel hoelen.” Ffeindiais i fod alinio fy hun yn rhy agos ag unrhyw ddamcaniaeth yn achosi problemau. Roedd Ferris Bueller yn fachan clyfar.

Ferris Bueller Ferris Bueller yn dweud “Isms in my opinion are not good”

Cymhlethdod

Mae pawb yn wahanol. O'r 3 person rheolais i ddechrau, wnes i glicio ag un ohonyn nhw ar unwaith. Roedd eu cryfderau nhw’n ategu ble roedd angen i mi ddatblygu, ac roedd fy arddull rheoli yn gweithio'n dda. Wrth fyfyrio yn y sesiynau hyfforddi llynedd, trafodom y ffaith bod dulliau perthynol o fewn fy mharth cysur. Roedd angen rhywbeth gwahanol wrth weithio gyda'r lleill, a wnes i ddim deall hynny nes i mi ddatblygu patrymau gweithio sefydlog gyda nhw. Y tro yma rwy'n edrych i roi prosesau defnyddiol ar waith i liniaru rhai o'm gwendidau, fel y gallaf dynnu ychydig o emosiwn o rhai sgyrsiau. Rwy'n edrych i gysylltu fy sgyrsiau rheoli â'r cyfarfodydd rheolwyr canol, fel bod gan bob un ohonom ddisgwyliadau clir ac eglurder ynghylch beth y disgwylir ohonom.

Her ddefnyddiol

Wrth reoli un o'm gydweithwyr fe wnes i symud rhwng “rhy lym” a “rhy neis.” Y tro yma rwy'n anelu i osgoi'r gor-ymateb yma. Rwy'n anelu am fan perffaith y Ffenestr Disgyblaeth Gymdeithasol, sef yr her ddefnyddiol. Wnâi trio cadw hyn mewn golwg o fewn fy sgyrsiau, gan edrych i greu gofodau oedolyn i oedolyn.

Osgoi pas ysbyty

Roedd lot o bethau allan o fy rheolaeth fel rheolwr canol. Pan ddaeth y rhain i'r amlwg, byddwn i'n tueddu i drosglwyddo'r achosion i fy rheolwr. Roedden nhw mewn sefyllfa well i wneud rhywbeth amdanynt (mewn theori o leiaf). Wrth edrych yn ôl, roedd hyn yn meddwl fy mod i wedi anfon sawl pas ysbyty tuag atynt.

Fe wnaeth sgyrsiau gyda chyfoedion helpu mi i feddwl am sut i ddelio â'r achosion yma yn well. Dywedodd cydweithiwr y byddan nhw'n mynd yn ôl i'r aelod staff i ofyn iddynt am dystiolaeth glir cyn gweithredu a mynd â'r achos i'r uwch reolwr. Roedd hyn yn rhoi’r cyfrifoldeb yn ôl ar yr unigolyn i ddatblygu’r gwaith, ac yn golygu bod nhw'n cadw eu hasiantaeth, a hefyd yn rhoi amser iddynt gael sgyrsiau ehangach am y mater.

Dyma ni'n mynd eto

Felly byddaf yn ôl mewn rôl rheolwr llinell yn fuan. Yn y rôl byddai'n anelu i osod cyfeiriad clir o ran ansawdd, adnoddau dysgu a phrofiad y defnyddiwr. Rwy'n edrych ymlaen at yr her y tro yma. Mae'r blogbost yma wedi rhoi'r cyfle i mi feddwl amdano beth rydw i wedi dysgu. Rwy'n siŵr y bydd rhagor o'r rhain wrth i fy rôl fel rheolwr llinell ddatblygu!

Dilynwch fi ar toot.wales

Mae’n deg i ddweud mai nid Technoleg a Ddylunio oedd fy mhwnc cryfaf yn yr ysgol. O fy safbwynt i, roedd fy ngallu i yn y pwnc yn adlewyrchu fy rhinweddau i. Oeddwn i’n person ymarferol? Na, roeddwn i'n bachan meddylgar.

Dechreuais adlewyrchu ar fy mhrofiadau ar ôl gwrando ar bennod o bodlediad Squiggly Careers ar wneud trwy ddysgu. Mae David Erixon yn trafod am sut mae fideos YouTube yn gallu darparu eiliadau pwerus o ddysgu, ac fe wnaeth hynny canu cloch gyda mi.

Roeddwn i wedi rhoi'r gorau i drio gwneud unrhyw gwaith ymarferol nes i mi ddechrau seiclo. Ond wrth i mi ddechrau gwneud milltiroedd mawr ar y beic, sylweddolais y fyddai'n gostus iawn os oedd rhaid i fi mynd â'r beic i'r siop bob tro aeth rhywbeth bach o'i le. Rydw i wedi dysgu siwd gymaint o sianeli fel GCN Tech, ac mae hyn wedi safio ffortiwn i fi.

Kermit yn sefyll ar feic sy'n symud Kermit yn sefyll ar feic sy'n symud

Sut ydyn ni'n cyfleu syniadau dysgu cymhleth ar fideo?

Rydym yn edrych ar ein prosesau wrth ddatblygu fideo ar hyn o bryd. Rydym yn edrych ar sut allwn greu naratif a'u er mwyn annog pobl i roi dulliau gofal cymdeithasol ar waith.

Mae fideos GCN wedi fy ngalluogi i sortio fy ngêrau ac adnewyddu fy mrecs mewn cyd-destun syml iawn – mae'r beic naill ai'n gweithio neu dyw e ddim. Ond ym maes gofal cymdeithasol mae rhaid i ni perswadio a gweithio gyda phobl. Mae hyn yn golygu meddwl amdano sut y gallwn ni ddod â phobl gyda ni.

Mae Phil John (sy’n rhan o griw theatr Baobab) a fi wedi bod yn gweithio ar sut y gallwn gomisiynu neu ddatblygu fideos gwell. Rydym yn edrych yn benodol ar sut mae ein hadnoddau yn gwneud i bobl deimlo. Mae Phil wedi creu byrddau hwyliau sy'n gwneud e'n haws i ni esbonio sut rydyn ni eisiau ein adnoddau i weithio i bobl.

Dylanwadu ar arfer

Rhannodd Mairi-Anne Macdonald y wefan EfratFurst yma gyda mi ar wneud synnwyr o wyddoniaeth ac addysg wybyddol. Mae'r wefan yn torri'r dysgu i lawr i gamau wahanol. Mae'r cam o “wneud ystyr” yn hynod o ddiddorol. Rydym yn trefnu cysyniadau newydd ac yn eu cysylltu â'r rhai sy'n bodoli eisoes cyn i ni ddechrau meddwl am eu rhoi nhw ar waith. Pan rwy'n trwsio fy meic, rwy'n cymharu fy meic â'r hyn rwy'n ei weld yn y fideo. Mae'r gweithredu yn cael ei sbarduno gan fy nymuniad i i gael beic sy'n gweithio.

Mae cymhelliant y dysgwr ychydig yn fwy mwdlyd pan does yna ddim un cam cywir. Mae’n golygu bod angen syniad clir o beth rydyn ni eisiau i ddysgwyr i gyflawni drwy wylio ein fideos, felly mae canlyniadau dysgu cryf a thriniaeth dda yn bwysig. Os ydym yn gwybod dyw ffeithiau ddim yn newid meddyliau, yna mae'n bwysig bod ni'n adrodd storïau ym modd difyr. Dyma sut rydyn ni'n alinio ein nodau a dod â phobl gyda ni.

Yna rhaid meddwl am rhoi pethau ar waith. Pan rydym yn gwylio fideos ymarferol ar YouTube, gweithredu'r dysgu yw'r rhesymeg yn y lle cyntaf. Ond mae rhoi dysgu ar waith o ddamcaniaethau yn dibynnu ar nodweddion ac amodau amrywiol. Rhaid i ni feddwl am sut y gallwn cynorthwyo pobl i roi'r dysgu ar waith a'i wneud yn rhan o'i weithgaredd dydd i ddydd. Yna rhaid ei droi'n arferiad.

Yna rhaid meddwl am y wobr personol rydyn ni'n cael o roi'r dysgu ar waith – yr effaith Ikea, ble mae ymdeimlad o foddhad o'r ymdrech rydyn ni'n gwneud. Rydyn ni'n fwy tebygol o gysylltu'r dysgu â'n gwaith os ydyw'n cael ei wneud gyda ni, nid ar ein cyfer ni, a bod y dysgu yma yn gwneud gwahaniaeth ymarferol.

Mae ymagwedd sy'n cynnwys y ffactorau hyn yn lot mwy debygol o gael ddylanwad arnom. Mae fy mudiad i ar daith gyda'r modd rydyn ni'n defnyddio ac yn gweithio gyda fideo. Rwy'n edrych ymlaen i weld sut y gallwn dod â rhai o'r syniadau yma i fewn i'r hyn a wnawn.

Dilynwch fi ar toot.wales

Rydw i wedi hedfan trwyddo bodlediad y 'New Gurus', sy'n edrych ar y gofodau digidol sy'n gwrthgyferbynnu feddygaeth, gwleidyddiaeth a chyfryngau prif ffrwd. Mae’n hynod ddiddorol, yn enwedig wrth edrych ar ein hymateb i dystiolaeth.

Delwedd clawr y 'New Gurus': mae ffigwr gyda breichiau wedi'i ymestyn wedi'i osod ar ffôn yn erbyn ffenestr liw

Rwy'n ffan mawr o bodlediadau a chyfryngau newydd. Rydw i wedi dod o hyd i gymaint o bersbectifau diddorol ar faterion sy'n aml yn cael eu hanwybyddu. Ond mae yna sgil effaith i'r safbwyntiau newydd a rhannwyd yn y cyfryngau newydd yma. Does yna ddim un fersiwn unigol o’r gwirionedd bellach, ac felly mae’n anoddach i ddweud pwy 'dych chi'n gallu ymddiried ynddo. Un o is-deitlau'r' 'New Gurus' yw “wrth i’n hymddiriedaeth mewn sefydliadau cilio, rydyn ni’n edrych at unigolion carismatig i ddweud wrthym sut i fyw.” Mewn pennod ble mae Will Blunderfield yn rhannu ei fod yn yfed ei hylifau corfforol ei hun, mae un o'i ddilynwyr yn siarad yn sarhaus am rôl gwyddoniaeth fodern:

“Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn wyddonwyr, a bod gwyddoniaeth yn ei ffurf elfennol yn ymwneud ag arsylwi. Does dim rhaid i chi fod yn ysgolhaig neu'n rhywbeth debyg i ddweud beth sy'n iawn neu'n anghywir.”

Er ei bod yn demtasiwn i weld datganiadau o'r fath yng nghyd-destun cymunedau rhyngrwyd cysgodol, mae yna goblygiadau yn y byd go iawn. Mae podlediad BASW ar waith cymdeithasol mewn parth gwrthdaro yn sôn am sut mae gwybodaeth o ansawdd da yn rhoi rheolaeth ac asiantaeth i bobl mewn sefyllfaoedd critigol a chymhleth:

“Roedd gweithwyr cymdeithasol yn cydnabod bod pobl yn gwneud penderfyniadau da drostynt eu hunain pan mae ganddyn nhw wybodaeth dda… sut y gallai pobl gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus am ddim, pa wledydd oedd yn cynnig llefydd i bobl fynd.”

Sut gallwn ni gyfleu tystiolaeth yn well?

Mae'r papur yma gan Anne H. Toomey yn hynod o ddiddorol ar 'Pam nad yw ffeithiau'n newid meddwl' – nid jyst ar gyfer yr ymchwil cadwraeth y mae'n ffocysu arno, ond tystiolaeth ac ymchwil ehangach hefyd. Mae'n edrych ar sut mae gwyddoniaeth yn cael ei chyfathrebu'n gyffredin a sut all dull gwell edrych.

Ydy ffeithiau yn newid meddwl?

Rydw i wedi clywed mai storïau sy'n newid meddyliau, nid ffeithiau. Mae’r papur yn awgrymu bod “defnyddioldeb cyfyngedig o ran lledaenu tystiolaeth yn well ar gyfer arfer a pholisi.” Dyw rhoi gwybodaeth i bobl yn ddigon, rhaid i ni adrodd ein storïau mewn ffordd ddifyr hefyd.

Rydyn ni'n ymladd dros yr hyn rydyn ni'n ei gredu

Byddai'n braf credu bod rhannu tystiolaeth yn ddigon, ond mae hynny'n amhosib pan dy chi'n cysidro ymddygiad dynol. Rydym yn tueddu i feddwl y bydd gweithio gydag unigolion yn adeiladu momentwm tuag at newid mewn barn grwpiau ehangach. Mae pobl yn llawer gwell wrth ddadlau eu pwyntiau nag y maen nhw wrth wneud penderfyniadau rhesymegol. Dyw gweithio i gynyddu llythrennedd gwyddonol yn unig yn ddigon. Rhaid i ni ddeall y pŵer o werthoedd, emosiynau a phrofiad os ydym am newid meddyliau ac ymddygiad pobl.

Rhoi'r gorau i snobyddiaeth

Yn y podlediad mae Helen Lewis yn gwrando’n barchus ar bobl sydd yn aml wedi cael eu hanwybyddu. Dyw hi ddim yn gwneud hwyl ar ben safbwyntiau pobl. Dyw hi ddim yn barnu'r pobl y mae hi'n cyfweld chwaith, hyd yn oed y rhai sydd ddim gyda sail ffeithiol i'w credoau. Mae hyn yn helpu ni i ddeall beth sy'n ysgogi pobl i brynu mewn i'r systemau amgen hyn. Mae'r cryfder o naratif yn drech na ffeithiau. Wrth ddisgrifio amheuaeth Will Blunderfield o feddyginiaeth, mae Helen Lewis yn dweud:

“Mae'n cymryd mwy na ffeithiau i guro stori, ac mae gan Will stori am frechiadau… os gwnewch chi roi stori ei fywyd at ei gilydd – ei gyfarfyddiadau anhapus â meddygaeth pan roedd yn blentyn, y tabledi a chynigwyd iddo yn lle therapi pan wynebodd rhagfarn trawiadol. Y pryderon am ei wrywdod ei hun. Gallwch gweld o ble y mae ei amheuaeth o feddygaeth brif ffrwd, yr hyn y mae'n ei alw'n feddyginiaeth allopathig, yn deillio.”

Mae papur Toomey yn gofyn inni roi’r gorau i roi’r bai ar “dderbynwyr” tystiolaeth ac i feddwl amdano sut y gallwn ymgysylltu â phobl a phynciau mewn sefyllfaoedd cymhleth yn lle. I'r rhai ohonom sy'n ceisio newid meddyliau, mae'r astudiaeth yma yn dangos y fanteision o 'ddadlau i ddysgu' (dyma drosolwg defnyddiol). Mae'n amhosib i argyhoeddi pawb ein bod ni'n iawn. Rhaid i ni wrando i ddeall safbwynt pobl os ydym am gefnogi pobl i newid eu meddyliau a'u hymddygiad, yn ogystal â datblygu ein safbwyntiau ein hunain amdano'r byd.

Dilynwch fi ar toot.wales

Dwi ddim rili'n credu mewn addunedau Blwyddyn Newydd, ond un peth dwi eisiau gwneud eleni yw i fod yn gynghreiriad gwell, yn enwedig i'r gymuned draws. Ar hyn o bryd rwy'n darllen 'The Transgender Issue' gan Shon Faye ar ôl darllen yr adolygiad gwych yma gan Terence Eden.

Clawr ‘The Transgender Issue’ gan Shon Faye

Ymreolaeth gorfforol

Mewn un bennod, mae Faye yn edrych ar sut mae ceidwadwyr yn ceisio rheoli cyrff menywod traws mewn ffordd debyg i sut maen nhw'n ceisio rheoli cyrff menywod cis. Ar ddiwedd y bennod yma ac mewn adrannau eraill o'r llyfr, mae Faye yn galw ar y ddau symudiad cymdeithasol i gydweithio er mwyn hyrwyddo eu hachosion ymhellach. I ddechrau roedd e'n teimlo fel bod Faye yn siarad â phobl sydd wedi cael eu hargyhoeddi yn barod, ond yna sylweddolais mai'r perthnasoedd gwan rhwng y symudiadau yma sydd wrth wraidd y rhaniadau presennol rhwng eiriolwyr cyfiawnder cymdeithasol.

Dechreuais gwestiynu fy safbwynt i hefyd. Ni ellir byth gael un cofnod cyflawn o brofiad unrhyw gymuned gan fod nhw'n cynnwys pobl ac agweddau amrywiol. Mae’n berffaith deg mai sail y llyfr yma yw adeiladu pontydd, ac mae yna digon o le i lyfrau eraill codi pwyntiau a thrafodaethau arall ble bo angen.

Naws o fewn dadleuon ar-lein

Unwaith i mi ddechrau meddwl am ddadleuon, dechreuais feddwl am y rhai dwi di weld ar Twitter. Dyw e ddim yn gyfrwng da ar gyfer trafodaeth ddwfn. Pan o fi'n arfer gweld bod trafodaethau am TERFs yn boblogaidd, byddwn i'n teimlo bod rhaid i mi glicio i weld beth oedd yn digwydd. Fel arfer roedd JK Rowling wedi dweud rhywbeth cas neu roedd yna ddadl ynghylch Deddf Cydnabod Rhyw'r Alban. Fe fyddwn i'n darllen yr holl sylwadau blin a phryfoclyd ac yn teimlo'n euog am glicio i ffwrdd achos roeddwn i'n ddigon ffodus i allu anwybyddu nhw.

Fel dyn cis, rwy'n gwybod fy mod i'n hynod o freintiedig. Dwi erioed wedi teimlo nad ydw i yn y corff cywir, a hefyd dwi ddim wedi teimlo'r ofn y mae cymaint o fenywod yn teimlo ynghylch dynion (ysgrifennodd fy ngwraig y post ardderchog yma ar hyn).

Er bod hunaniaethau traws yn cael eu cysidro yng nghyd-destun ymyleiddio menywod ar Twitter, y gwir amdani yw does gan bobl draws ddim pŵer sefydliadol cryf. Mewn gwaith blaenorol rydw i wedi clywed o bobl sydd wedi cael eu henwi’n farw (neu “deadnaming”) mewn ymgais i'w gywilyddio, i'w diraddio ac i danseilio eu hunaniaethau.

Sut byddai gynghreiriad da yn edrych?

Llynedd fe wnaethon ni fynd drwy’r broses o drawsgrifio ein podlediadau er mwyn sicrhau bod nhw'n hygyrch. Fe wnaethom rannu'r gwaith o gwmpas sawl un ohonom, a chefais fy niddori gan rhai o'r penodau roeddwn i'n gyfrifol amdano. Fe wnaeth rhywbeth dywedodd Dez Holmes ar bodlediad ar hil, braint a chynghreiriad aros gyda mi. Cafodd y sylw ei wneud yng nghyd-destun hil, ond fe wnaeth i mi fyfyrio ar fy rôl i fel cynghreiriad yn fwy cyffredinol:

“Rwy'n credu fy mod i'n cymryd safbwynt amlochrog ar fraint, neu fraint wen, yn yr ystyr bod yna elfen o'r hyn yr ydych wedi dweud, am ryddhau pŵer. Rwy'n meddwl mewn rhai senarios, mae'n bwysig i gynghreiriaid i ryddhau eu pŵer, ond rydw i hefyd yn gwerthfawrogi, i'r bobl hynny sydd, efallai, yn hunanymwybodol am eu pŵer, gall y syniad gwneud nhw i deimlo'n anghysurus, neu'n teimlo'n anesmwyth ynglŷn â gwneud hynny. Rwy'n meddwl bod sefyllfaoedd gwahanol yn gofyn am bethau gwahanol gan gynghreiriaid. A dyna pam ei bod yn bwysig bod cynghreiriaid yn cael eu haddysgu o ran y pŵer sydd ganddynt, sut y gellir ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd gwahanol, a natur y pŵer yna mewn gwirionedd.”

Ers myfyrio ar hyn rydw i wedi bod yn ystyried y pŵer sydd gennyf a beth rwy'n gwneud ag ef. Dwi ddim yn bwriadu mynd mewn i ddadleuon ar-lein, ond mae rhywbeth o gwmpas gwneud fy safbwynt yn glir fel bod gen i safbwynt clir pan rwy'n cael fy nhynnu i mewn i drafodaethau. Gobeithio byddai mewn sefyllfa well i ymateb mewn ffordd gynorthwyol a chefnogol i'r gymuned draws. Yn y rhyfel diwylliant presennol, mae'n golygu cael y dewrder i amlygu fy syniadau fy hun ac i fod yn fwy llafar pan fyddaf yn gweld anghyfiawnder.

I unrhyw un sy’n byw neu weithio’n gyfagos i Gasnewydd, mae Stonewall yn cynnig y rhaglen dysgu yma ar gyfer Cynghreiriaid Traws – mae'n edrych yn wych!

Dilynwch fi ar toot.wales

Mae cwpl o flynyddoedd wedi bod ers i mi sgwennu trosolwg o'r flwyddyn. Mae hynny'n rhannol oherwydd y pandemig a'r newid mewn sut rwy'n byw fy mywyd. Roedd fy nghymudo arfer rhoi amser i mi fyfyrio dros beth roeddwn i wedi dysgu a ble'r roedd pethau, ac mae'r cyfle yna bellach wedi diflannu. Wedi dweud hynny, mae fe wedi dod â chymaint o bethau positif i'm bywyd hefyd.

Newidiadau ar-lein

Mae fy mlogio a myfyrio wedi bod yn haneru pob flwyddyn ers 2019. Ysgrifennais 24 blogbost yn 2019, 11 yn 2020 a 6 yn 2021. Dwi wedi cyrraedd 7 eleni, ond dim ond trwy ymdrech arbennig ar ddiwedd y flwyddyn. Hoffwn i fynd yn ôl i sgwennu blogbost bob mis os allai.

Serch hyn, mae 2022 wedi teimlo fel dechrau newydd o ran gweithio a myfyrio’n agored. Am y tro cyntaf ers tro, rwy'n edrych ymlaen at rannu'r hyn rwy'n gwneud a dysgu.

Un rheswm am hyn yw'r amgylchedd ar-lein. Dyw fy mherthynas â Twitter ddim wedi bod yn wych ers sbel. Mewn gweithle blaenorol roedden nhw'n cadw un llygad ar sut roedd staff yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i sicrhau nad oeddem yn rhannu unrhyw beth amhriodol. Rwy'n cael fy nhrin fel oedolyn nawr yn Research in Practice, ond mae'r teimlad anesmwyth hynny wedi aros 'da fi.

Roedd e'n teimlo fel bod angen saib o Twitter arna i yn ystod y pandemig, a dwi byth wedi ailgysylltu ag e ers hynny. Mae'r newidiadau mae Elon Musk wedi gwneud ers iddo fe brynu'r platfform wedi atgyfnerthu'r teimladau anghysurus yna.

Ers ymuno â Mastodon dwi wedi herio fy hun i rannu rhywbeth bob dydd os yw'n bosib ac i newid y modd ceidwadol rwy'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Dyw'r diweddariadau yma ddim wastad wedi bod yn bethau pwysig, ond cofnodion o beth rydw i wedi mwynhau, neu beth mae'r gath wedi bod yn gwneud ar gyfer #Caturday. Mae fe wedi bod yn amser hir ers i mi wneud unrhyw beth tebyg ar Twitter, sydd ddim yn teimlo fel man diogel i rannu neu ddysgu rhagor.

Gwenllian y cath yn eistedd ar y droell.

Dwi wedi newid fy mhlatfform blogio hefyd i Write.As (diolch i David Clubb o Afallen am yr argymhelliad). Mae'n dra gwahanol i Medium gan fod cymaint llai o ffrithiant ynghylch creu a phostio blogbostau. Mae blogio yn bleser yno, ond mae'r newid wedi golygu fy mod i'n colli agweddau da o Medium. Mae'r nodwedd nod tudalen yn ddefnyddiol iawn, felly rydw i wedi ei ail-greu trwy ddefnyddio Pocket. Mae'r system tagio yn fy ngalluogi i ddod o hyd i erthyglau'n hawdd ac i gadw rhai da sydd y tu allan i Medium hefyd.

Mae Feedly hefyd yn teimlo fel ei fod yn welliant ar system dilyn Medium. Eto, roedd hyn wedi ei gyfyngu i'r platfform, felly roeddwn i'n tueddu i ddibynnu ar Twitter fel modd o ddod o hyd i fostiau gan bobl sy'n blogio ar lwyfannau eraill. Roedd hyn yn eithaf annibynadwy, felly mae cael porth rss traws-lwyfan yn ddefnyddiol iawn.

Sut mae gwaith wedi teimlo eleni?

Rydw i wedi symud o rôl ar ochr gweithredol y busnes ble roeddwn i'n goruchwylio ein digwyddiadau cenedlaethol i mewn i rôl Pennaeth Dysgu, ble dw i'n edrych i wella cyfleoedd dysgu ein partneriaid.

Mae fe wedi teimlo fel newid go iawn wrth i'r rôl symud y tu hwnt i syniad damcaniaethol. Rydw i wedi cynnig mwy o arweiniad yn fy ngwaith eleni, sydd wedi arwain at rhai newidiadau sy'n dechrau cael effaith. Rydw i wedi bod yn cefnogi cydweithwyr i ddefnyddio Strwythurau Rhyddhaol (neu 'Liberating Structures') ar ôl sesiwn ardderchog gyda Happy. Rydw i hefyd wedi creu canllawiau ar gyfer defnyddio PowerPoint i'n helpu i symud i ffwrdd o ddull sialc a siarad ble bynnag y bo modd. Y cam nesaf yw datblygu canllawiau ar bwrpas sleidiau yn y lle cyntaf.

Bywyd teulu

Mae bywyd wedi bod yn dipyn o gorwynt eleni. Mae'r boi bach bellach yn un flwydd oed. Yn sicr dwi heb gael digon o gwsg. Mae fy ngwraig i wedi bod yn anhygoel, ond dyw bywyd ddim wedi bod yn hawdd i'r un ohonom. Mae hi wedi bod yn gefnogol iawn, ac rwy'n gobeithio bod hi’n teimlo fy mod i wedi un fath amdana’ i wrth iddi fynd yn ôl i’r gwaith ar ôl ei chyfnod mamolaeth.

Rydyn ni'n dau yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos yn lle bump, ac mae hyn wedi bod yn heriol (ac rydw i wedi myfyrio am hyn yma). Mae Research in Practice wedi bod yn hynod o gefnogol, ac mae gweithio o gartref ers y pandemig wedi golygu fy mod i wedi gallu gwneud llawer mwy o'r llafur emosiynol sy'n dod gyda bywyd o ddydd i ddydd.

Un gwelliant rydw i wedi rhoi ar waith eleni yw gorffen gwaith ar amser. Cyn y bandemig fe fyddwn i'n mynd ar y trên i'r swyddfa felly roedd gorffen ar amser yn rhan o'm diwrnod. Daeth hyn i ben pan roddais y gorau i gymudo. Ond mae fe wedi dod i'r amlwg bod y balans rhwng gwaith a bywyd teuluol ddim cweit yn iawn, felly rydw i wedi ceisio mynd i'r afael â phethau.

Beth ddwi eisiau gwneud yn wahanol yn 2023

Hoffwn fod yn fwy dewr yn 2023. Mae hyn yn golygu cefnogi fy hun a fy syniadau mewn sefyllfaoedd ble rydw i wedi bod yn rhy barod i gyfaddawdu. Rwy'n teimlo fy mod i wedi dechrau gwneud hyn yn 2022, ond yn rhy aml rwy'n tueddu i fynd yn araf yn lle clatsio 'mlaen gyda gwaith .

Rhaid cael cydbwysedd yma wrth gwrs. Rydw i wedi gwthio nôl yn galed wrth i ni gael sgyrsiau am fesurau ansawdd er mwyn sicrhau ein bod ni'n osgoi'r peryglon sy'n dod gyda thargedau a Rheolaeth Gyhoeddus Newydd. Wrth fyfyrio gyda fy rheolwr llinell, siaradom amdano os oeddwn i'n cynnig dewis amgen defnyddiol i’n helpu ni i symud y tu hwnt i’r dull hynny. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol yn Systemau Dysgu Dynol am hyn (yn enwedig gan Lankelly Chase) ac wrth wthio cymaint yn ôl, dwi ddim wedi bod yn ddigon cyflym i gyfeirio ato. Mae fy rheolwr llinell yn newid eleni, ac rwy’n gobeithio cael mwy o’r sgyrsiau heriol hyn fel rhan o’r berthynas honno.

Ar y cyfan, mae fe wedi bod yn flwyddyn wych. Fe wnâi ceisio barhau i fyfyrio mewn blogbostau amrywiol yn y flwyddyn i ddod. Mae bywyd yn gymhleth, felly dwi ddim yn disgwyl i bopeth i fod yn syml. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae pethau'n datblygu, ac mae gen i frwdfrydedd o'r newydd i fynd i'r afael â beth a ddaw.

Dilynwch fi ar toot.wales

Ychydig o fisoedd yn ôl fe wnes i gymryd rhan mewn wythnos o ymarferion dysgu gyda Happy ar gynhyrchiant. Mae'n bwnc sy'n mynd ar nerfau fi bach. Mae pobl ar Medium a LinkedIn yn sgwennu cymaint o blogbostau ar sut y gallwch wneud y fwyaf o'ch 100 awr o waith bob wythnos.

A squirrel panicking finding out there are 3502 unread email Gwiwer yn gollwng ei bwyd ac yn mynd mewn i banig ar ôl sylweddoli bod ganddo 3502 o e-byst heb eu darllen

Wedi dweud hyn, daeth y cyfle ar yr amser perffaith. Rydw i nawr yn gweithio pedwar dydd yr wythnos. Mae cael diwrnod pob wythnos i ofalu am fy mab yn i'n lush, ond mae diwrnod llai o waith wedi gwneud fi'n brysurach. Mae canolbwyntio ar y pethau cywir a sicrhau bod y gwaith rwy'n gwneud yn ychwanegu gwerth yn rhywbeth rwy'n ffeindio'n anodd.

Beth sydd wedi gweithio

Roeddwn i wedi clywed am ddull Pomodoro cyn dechrau'r wythnos o weithgareddau, ond doeddwn i ddim rili wedi meddwl amdano sut roedd amser di-dor yn edrych i fi. Nawr rwy'n gweithio o gartref y rhan fwyaf o'r amser, rydw i wedi sylweddoli nid sgyrsiau yw’r prif ymyriad yn fy ngwaith, ond y llif cyson o e-byst a diweddariadau Teams.

Mae'r egwyl o 5 munud ar ôl 25 munud o waith wedi bod yn hynod o werthfawr. Yn y gorffennol rydw i wedi llenwi 5 munud yma ac acw gyda podlediad, ond mae cael eiliad i ailffocysu a myfyrio rhwng tasgau yn hynod o werthfawr. Dylai hyn ddim bod yn syndod, ond gan fod ffonau a llwyfannau cysylltiedig wedi'u cynllunio i gadw ni yng nghlwm iddynt, mae fe wedi bod yn dipyn o newid.

Rydw i hefyd wedi diwygio'r gosodiadau hysbysu ar wahanol lwyfannau. Fe wnes i ddiffodd hysbysiadau e-bost flynyddoedd yn ôl, ond mae Teams yn fwy o broblem gan mai dyma ble ni'n storio ffeiliau. Nawr rydw i wedi ychwanegu nodau tudalen Sharepoint i fy mhorwr er mwyn osgoi mynd mewn i Teams, ac rydw i hefyd wedi diffodd y bathodynnau ar fy mar offer fel dwi ddim yn gweld faint o dasgau sy'n aros i mi.

Cynllunio

Roedd Bwyta 4 Broga hefyd yn ddefnyddiol. Mae cynllunio fy ngwaith y noson gynt wedi bod o gymorth mawr i mi er mwyn i mi gyflawni beth sydd angen i mi ei gyflawni'r dydd nesaf. Ochr yn ochr â hyn, rwy'n ceisio osgoi edrych ar fy e-byst tan amser cinio am o leiaf un diwrnod yr wythnos.

Mae Happy wedi ysgogi fi i feddwl yn wahanol am e-bost. Yn hytrach na defnyddio fy mewnflwch fel lle i storio tasgau, rydw i wedi bod yn creu apwyntiadau i ddelio â nhw trwy symud i ddull 3-2-1-Zero. Rydw i wedi bod yn amheus amdano Inbox Zero ers sbel ar ôl darllen y darn gwych yma gan Oliver Burkeman, ond mae neilltuo amser i dasgau wedi fy helpu i i ddeall pa waith sydd angen wneud a beth sydd er gwybodaeth yn unig.

Rydw i hefyd wedi fy ysbrydoli gan flogbost WhatsThePont ar pam mae’r opsiwn ‘cc’ o fewn e-bost yn tanseilio cymdeithas. Rydw i wedi creu ffolder ble mae'r holl e-byst rydw i wedi'u copïo mewn i yn cael eu symud yn awtomatig ac yn cael eu marcio fel maen nhw wedi'u darllen. Mae hyn wedi helpu i dacluso fy mewnflwch ymhellach.

Felly mae popeth yn berffaith nawr?

Mae cyfathrebu yn weithgaredd dynol, ac mae hynny'n golygu na fydd fy mewnflwch byth yn berffaith. Ond mae'r dulliau yma wedi rhoi man cychwyn defnyddiol iawn i mi.

Ar ddiwedd y dydd, ni fydd pethau'n newid nes i ni ystyried ebost ar lefel systemig. Rwy'n ffeindio fe’n ddiddorol bod pobl yn dweud bod llwyfannau fel Slack a Teams yn wastraff amser, ond bod e-bost yn ddefnydd dilys ohono. Mae ebyst dal yn siarad amdano waith heb wneud dim byd mewn gwirionedd. Os gallwn gael ein pennau o gwmpas hynny, yna gallwn wneud defnydd gwell o’n hamser wrth i ni gefnogi pobl i fyw bywydau gwell.

Dilynwch fi ar toot.wales

Mwnci’n meddwl yn galed wrth grafu ei ben

Mwnci’n meddwl yn galed wrth grafu ei ben trwy Creative Commons

Mae fy nghydweithiwr Mairi-Anne MacDonald wedi rhannu bapur diddorol â mi ar “Effaith Cysyniadau Dysgu ar Ymarfer.” Wnaeth y teitl ddim llenwi fy nghalon â llawenydd, ond fe wnaeth y ddarn ysgogi mi i feddwl am y modd rydyn ni'n gweld dysgu o fewn gwasanaethau cyhoeddus.

Rydw i wedi blogio o’r blaen am yr aneffeithiolrwydd o hyfforddiant traddodiadol. Mae'n rhoi'r cyfrifoldeb am ddysgu yn nwylo hyfforddwr arbenigol, ac mae'n gweld cyfranogwyr fel dysglau gwag sydd angen cael eu llenwi â gwybodaeth. Mae'n deg i ddweud dyw'r fethodoleg ddim yn seiliedig ar gryfderau. Mae'r papur yma yn disgrifio'r cysyniad fel un o drosglwyddo/caffael, ble mae gwybodaeth yn cael ei rannu o ffynonellau awdurdodol i wagleoedd.

Sut fyddai dull gwahanol yn edrych?

Mae’r model amgen ychydig yn wahanol:

“Mae’r cysyniad o adeiladu dysgu yn gweld dysgu fel modd o adeiladu ystyr o fewn meddyliau unigol dysgwyr, yn ogystal â modd o wneud lluniadau cydweithredol a chyfunol.”

Mae hyn yn canu cloch o ran adnoddau rydw i wedi darllen ar pam mae perthnasoedd yn allweddol i rannu gwybodaeth, yn enwedig yr ymchwil yma a’r darn da yma ar Drawsnewid Tystiolaeth). Mae rhain yn hollbwysig wrth i ni geisio rhoi dysgu o ymchwil ar waith, a hefyd dysgu o ddigwyddiadau a chyfleoedd dysgu eraill hefyd.

Cymhlethdod

Mae gen i ddiddordeb mawr hefyd mewn sut mae’r ddwy cysyniad yn cyd-fynd â chymhlethdod. Mae’r papur yn awgrymu y byddai “rhywun sydd â feddylfryd trosglwyddo/caffael o ddysgu hefyd yn tueddu i feddu ar fyd-olwg rhesymol, gwyddonol, gwrthrychol* ac empirig.” Mae hyn yn teimlo fel ffordd ddeuol o weld y byd, sydd ddim yn cyd-fynd â’r realiti o naws bywydau pobl. Mae’r cysyniad adeiladu i’r gwrthwyneb o hyn, ac felly mae’n gweld bod cyfle i ddysgu o fewn cyd-destun digwyddiad a thu hwnt.

A yw’n ddefnyddiol i ddadlau dros ystyr cysyniad?

Rwy’n meddwl bod e’n ddefnyddiol i archwilio ein defnydd o iaith a modelau meddyliol. Er enghraifft, rwy’n teimlo bod angen beirniadu hyfforddiant traddodiadol oherwydd ei fod yn awgrymu bod pobl yn ‘tabula rasa.’ Ond teimlaf hefyd fod dysgu yn ganolog i wasanaethau cyhoeddus da. Os nad ydym yn dysgu i ddeall sut mae bywydau da yn edrych i bobl, yna does gennym ddim siawns o allu cefnogi pobl i byw bywydau gwell. Mae gosod ein hunain mewn safleoedd gwybodaeth absoliwt ac awdurdodol yn rhoi persbectif patriarchaidd i ni. Er mwyn i ffyrdd o ddysgu fod yn addas at eu dibenion, mae rhaid i ni cydnabod ein bod ni’n gweithio gyda chryfderau, gwybodaeth ac arbenigedd pobl ac adeiladu arnynt.

* Darllenais Ayn Rand felly does dim rhaid i chi. Byddwn i’n adolygu’r profiad yna, ond mae lot o bobl wedi beirniadu ei gwaith hi’n well nag y gallwn i. Dyma ddechrau da rhag ofn bod gennych chi ddiddordeb!

Dilynwch fi ar toot.wales

Enter your email to subscribe to updates.