Gwneud pethau gwell

Caturday

Mae cwpl o flynyddoedd wedi bod ers i mi sgwennu trosolwg o'r flwyddyn. Mae hynny'n rhannol oherwydd y pandemig a'r newid mewn sut rwy'n byw fy mywyd. Roedd fy nghymudo arfer rhoi amser i mi fyfyrio dros beth roeddwn i wedi dysgu a ble'r roedd pethau, ac mae'r cyfle yna bellach wedi diflannu. Wedi dweud hynny, mae fe wedi dod â chymaint o bethau positif i'm bywyd hefyd.

Newidiadau ar-lein

Mae fy mlogio a myfyrio wedi bod yn haneru pob flwyddyn ers 2019. Ysgrifennais 24 blogbost yn 2019, 11 yn 2020 a 6 yn 2021. Dwi wedi cyrraedd 7 eleni, ond dim ond trwy ymdrech arbennig ar ddiwedd y flwyddyn. Hoffwn i fynd yn ôl i sgwennu blogbost bob mis os allai.

Serch hyn, mae 2022 wedi teimlo fel dechrau newydd o ran gweithio a myfyrio’n agored. Am y tro cyntaf ers tro, rwy'n edrych ymlaen at rannu'r hyn rwy'n gwneud a dysgu.

Un rheswm am hyn yw'r amgylchedd ar-lein. Dyw fy mherthynas â Twitter ddim wedi bod yn wych ers sbel. Mewn gweithle blaenorol roedden nhw'n cadw un llygad ar sut roedd staff yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i sicrhau nad oeddem yn rhannu unrhyw beth amhriodol. Rwy'n cael fy nhrin fel oedolyn nawr yn Research in Practice, ond mae'r teimlad anesmwyth hynny wedi aros 'da fi.

Roedd e'n teimlo fel bod angen saib o Twitter arna i yn ystod y pandemig, a dwi byth wedi ailgysylltu ag e ers hynny. Mae'r newidiadau mae Elon Musk wedi gwneud ers iddo fe brynu'r platfform wedi atgyfnerthu'r teimladau anghysurus yna.

Ers ymuno â Mastodon dwi wedi herio fy hun i rannu rhywbeth bob dydd os yw'n bosib ac i newid y modd ceidwadol rwy'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Dyw'r diweddariadau yma ddim wastad wedi bod yn bethau pwysig, ond cofnodion o beth rydw i wedi mwynhau, neu beth mae'r gath wedi bod yn gwneud ar gyfer #Caturday. Mae fe wedi bod yn amser hir ers i mi wneud unrhyw beth tebyg ar Twitter, sydd ddim yn teimlo fel man diogel i rannu neu ddysgu rhagor.

Gwenllian y cath yn eistedd ar y droell.

Dwi wedi newid fy mhlatfform blogio hefyd i Write.As (diolch i David Clubb o Afallen am yr argymhelliad). Mae'n dra gwahanol i Medium gan fod cymaint llai o ffrithiant ynghylch creu a phostio blogbostau. Mae blogio yn bleser yno, ond mae'r newid wedi golygu fy mod i'n colli agweddau da o Medium. Mae'r nodwedd nod tudalen yn ddefnyddiol iawn, felly rydw i wedi ei ail-greu trwy ddefnyddio Pocket. Mae'r system tagio yn fy ngalluogi i ddod o hyd i erthyglau'n hawdd ac i gadw rhai da sydd y tu allan i Medium hefyd.

Mae Feedly hefyd yn teimlo fel ei fod yn welliant ar system dilyn Medium. Eto, roedd hyn wedi ei gyfyngu i'r platfform, felly roeddwn i'n tueddu i ddibynnu ar Twitter fel modd o ddod o hyd i fostiau gan bobl sy'n blogio ar lwyfannau eraill. Roedd hyn yn eithaf annibynadwy, felly mae cael porth rss traws-lwyfan yn ddefnyddiol iawn.

Sut mae gwaith wedi teimlo eleni?

Rydw i wedi symud o rôl ar ochr gweithredol y busnes ble roeddwn i'n goruchwylio ein digwyddiadau cenedlaethol i mewn i rôl Pennaeth Dysgu, ble dw i'n edrych i wella cyfleoedd dysgu ein partneriaid.

Mae fe wedi teimlo fel newid go iawn wrth i'r rôl symud y tu hwnt i syniad damcaniaethol. Rydw i wedi cynnig mwy o arweiniad yn fy ngwaith eleni, sydd wedi arwain at rhai newidiadau sy'n dechrau cael effaith. Rydw i wedi bod yn cefnogi cydweithwyr i ddefnyddio Strwythurau Rhyddhaol (neu 'Liberating Structures') ar ôl sesiwn ardderchog gyda Happy. Rydw i hefyd wedi creu canllawiau ar gyfer defnyddio PowerPoint i'n helpu i symud i ffwrdd o ddull sialc a siarad ble bynnag y bo modd. Y cam nesaf yw datblygu canllawiau ar bwrpas sleidiau yn y lle cyntaf.

Bywyd teulu

Mae bywyd wedi bod yn dipyn o gorwynt eleni. Mae'r boi bach bellach yn un flwydd oed. Yn sicr dwi heb gael digon o gwsg. Mae fy ngwraig i wedi bod yn anhygoel, ond dyw bywyd ddim wedi bod yn hawdd i'r un ohonom. Mae hi wedi bod yn gefnogol iawn, ac rwy'n gobeithio bod hi’n teimlo fy mod i wedi un fath amdana’ i wrth iddi fynd yn ôl i’r gwaith ar ôl ei chyfnod mamolaeth.

Rydyn ni'n dau yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos yn lle bump, ac mae hyn wedi bod yn heriol (ac rydw i wedi myfyrio am hyn yma). Mae Research in Practice wedi bod yn hynod o gefnogol, ac mae gweithio o gartref ers y pandemig wedi golygu fy mod i wedi gallu gwneud llawer mwy o'r llafur emosiynol sy'n dod gyda bywyd o ddydd i ddydd.

Un gwelliant rydw i wedi rhoi ar waith eleni yw gorffen gwaith ar amser. Cyn y bandemig fe fyddwn i'n mynd ar y trên i'r swyddfa felly roedd gorffen ar amser yn rhan o'm diwrnod. Daeth hyn i ben pan roddais y gorau i gymudo. Ond mae fe wedi dod i'r amlwg bod y balans rhwng gwaith a bywyd teuluol ddim cweit yn iawn, felly rydw i wedi ceisio mynd i'r afael â phethau.

Beth ddwi eisiau gwneud yn wahanol yn 2023

Hoffwn fod yn fwy dewr yn 2023. Mae hyn yn golygu cefnogi fy hun a fy syniadau mewn sefyllfaoedd ble rydw i wedi bod yn rhy barod i gyfaddawdu. Rwy'n teimlo fy mod i wedi dechrau gwneud hyn yn 2022, ond yn rhy aml rwy'n tueddu i fynd yn araf yn lle clatsio 'mlaen gyda gwaith .

Rhaid cael cydbwysedd yma wrth gwrs. Rydw i wedi gwthio nôl yn galed wrth i ni gael sgyrsiau am fesurau ansawdd er mwyn sicrhau ein bod ni'n osgoi'r peryglon sy'n dod gyda thargedau a Rheolaeth Gyhoeddus Newydd. Wrth fyfyrio gyda fy rheolwr llinell, siaradom amdano os oeddwn i'n cynnig dewis amgen defnyddiol i’n helpu ni i symud y tu hwnt i’r dull hynny. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol yn Systemau Dysgu Dynol am hyn (yn enwedig gan Lankelly Chase) ac wrth wthio cymaint yn ôl, dwi ddim wedi bod yn ddigon cyflym i gyfeirio ato. Mae fy rheolwr llinell yn newid eleni, ac rwy’n gobeithio cael mwy o’r sgyrsiau heriol hyn fel rhan o’r berthynas honno.

Ar y cyfan, mae fe wedi bod yn flwyddyn wych. Fe wnâi ceisio barhau i fyfyrio mewn blogbostau amrywiol yn y flwyddyn i ddod. Mae bywyd yn gymhleth, felly dwi ddim yn disgwyl i bopeth i fod yn syml. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae pethau'n datblygu, ac mae gen i frwdfrydedd o'r newydd i fynd i'r afael â beth a ddaw.

Dilynwch fi ar toot.wales